Pleroma
Meddalwedd gweinydd microblogio yw Pleroma sy'n gallu ffedereiddio (= cyfnewid negeseuon â) gweinyddwyr eraill sy'n cefnogi ActivityPub. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw y gallwch chi gynnal gweinydd i chi'ch hun neu'ch ffrindiau a chadw rheolaeth ar eich hunaniaeth ar-lein, ond dal i gyfnewid negeseuon â phobl ar weinyddion mwy. Bydd Pleroma yn ffedereiddio â'r holl weinyddion sy'n gweithredu ActivityPub, fel Friendica, GNU Social, Hubzilla, Mastodon, Misskey, Peertube, a Pixelfed. Mae Pleroma wedi'i ysgrifennu yn Elixir ac mae'n defnyddio PostgresSQL ar gyfer storio data. Mae'n ddigon effeithlon i gael ei redeg ar ddyfeisiau pŵer isel fel Raspberry Pi (er na fyddem yn argymell storio'r gronfa ddata ar y cerdyn SD mewnol 😉 ond gall raddfa'n dda pan gaiff ei redeg ar galedwedd mwy pwerus (er mai dim ond nod sengl am y tro).
Chi sy'n rheoli a gallwch hyd yn oed gynnal gweinydd eich hun. Dim hysbysebion a dim casglu data.